St. David’s Celebration 10/03/20 Dathliad Gŵyl Dewi

Draig Werdd – the Welsh Society in Ireland and Global Welsh Dublin are hosting a St. David’s celebration on Tuesday March 10th as part of Wales Week in Dublin 2020. This will be taking place from 6.30-9pm in the Dome at the CHQ Building, Custom House Quay, Dublin 1.

We will be celebrating our national day in this unique setting with music from Dublin Welsh choir, poetry and prose as well as the opportunity to have a few Welsh lessons and meet various guests who will be dropping by. Admission is free – no booking is required so make a point of joining us for the evening to celebrate being Welsh in Ireland.

Wales Week in Dublin is an initiative of the Welsh Government in partnership with Wales Week Worldwide. Go to http://www.welshsociety.ie/activities/ for more information and a map of the location.

Bydd Draig Werdd – y Gymdeithas Gymreig yn Iwerddon a Global Welsh Dulyn yn cynnal dathliad Gŵyl Dewi nos Fawrth Mawrth 10fed fel rhan o Wythnos Cymru yn Nulyn 2020. Bydd hyn yn digwydd rhwng 6.30-9pm yn y Dome yn Adeilad CHQ, Custom House Quay, Dulyn 1.

Byddwn yn dathlu ein diwrnod cenedlaethol yn y lleoliad unigryw hwn gyda cherddoriaeth gan Gôr Meibion Cymry Dulyn, barddoniaeth a rhyddiaith ynghyd â’r cyfle i gael ychydig o wersi Cymraeg a chwrdd â gwesteion amrywiol a fydd yn galw heibio. Mae mynediad am ddim  – ‘does dim angen archebu, felly gwnewch bwynt o ymuno â ni am y noson i ddathlu bod yn Gymro yn Iwerddon.

Mae Wythnos Cymru yn Nulyn yn fenter gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth â Wales Week Worldwide. Ewch i http://www.welshsociety.ie/cymraeg/gweithgareddau/ i gael mwy o wybodaeth a map o’r lleoliad.

Wales v France 22/02/20 Cymru v Ffrainc

We will be meeting once again upstairs in Doheny & Nesbitts, Upper Baggot Street, Dublin 2 on Saturday afternoon 22 February for Wales’ next match in the 2020 Six Nations championship against France.  Kick-off is at 4.45pm.  Come along to watch the match with fellow Welshmen/women.  Just look out for the red jerseys.

Byddwn yn cyfarfod unwaith eto lan llofft yn Doheny & Nesbitts, Upper Baggot Street, Dulyn 2 brynhawn dydd Sadwrn 22 Chwefror ar gyfer gêm nesaf Cymru ym mhencampwriaeth 2020 y Chwe Gwlad yn erbyn Ffrainc. Mae’r gic gyntaf am 4.45pm. Dewch draw i wylio’r gêm gyda’ch cyd-Gymry. Chwiliwch am y crysau cochion.

Ireland v Wales 8/2/20 Iwerddon v Cymru

If you aren’t going to the Aviva stadium in Dublin to watch Wales play Ireland in the next round of 6 Nations rugby fixtures on Saturday, why not come and watch the game on television with us? We have an area reserved for our use upstairs in Doheny & Nesbitt’s, Baggot Street, Dublin 2 so come along and support Wales with fellow countrymen and women – the game starts at 14.15. Just look for the red shirts!

Os nad ydych chi’n mynd i stadiwm Aviva yn Nulyn i wylio Cymru yn chwarae Iwerddon yn y rownd nesaf o gemau rygbi’r 6 Gwlad ddydd Sadwrn, beth am ddod i wylio’r gêm ar y teledu gyda ni? Mae ardal i fyny’r grisiau yn Doheny & Nesbitt’s, Baggot Street, Dulyn 2 wedi ei neilltuo ar ein cyfer, felly dewch draw i gefnogi’r tîm gyda’ch cyd-Gymry – mae’r gêm yn dechrau am 14.15. Chwiliwch am y crysau coch!

Happy Saint Dwynwen’s Day / Dydd Santes Dwynwen Hapus

Happy Saint Dwynwen’s day from Draig Werdd! Saint Dwynwen is the Welsh patron saint of lovers, which makes her the Welsh version of St. Valentine. So there’s no need to wait until St. Valentine’s day to say to someone close to you “Rwy’n dy garu di”!

Go to the Visit Wales website if you’d like to find out more about the story of St. Dwynwen and why she’s associated in Wales with lovers.

Dydd Santes Dwynwen hapus o Draig Werdd! Santes Dwynwen yw nawddsant cariadon Cymru, sy’n ei gwneud hi’n fersiwn Gymraeg o Sant Ffolant. Felly does dim angen aros tan ddydd Sant Ffolant i ddweud wrth rywun sy’n agos i chi “Rwy’n dy garu di”!

Ewch i wefan Visit Wales os hoffech chi ddarganfod mwy am stori Santes Dwynwen a pham ei bod hi’n gysylltiedig yng Nghymru â chariadon.