Archifau

Dathliadau Dydd Gŵyl Dewi

Mae Draig Werdd yn nodi Dydd Gŵyl Dewi bob blwyddyn drwy gynnal dathliad yn Nulyn, naill ai cinio gyda siaradwr gwadd neu barti anffurfiol. Dyma restr o’r dathliadau o flynyddoedd blaenorol:

2019: Parti yn y Dropping Well, Dulyn 6.

2017Cinio yng Ngwesty’r Hampton, Dulyn gyda’r siaradwr gwadd Huw Llywelyn Davies.

2016: Parti yn Scruffy Murphy’s, Dulyn.

 

2015:  Cinio yng Ngwesty’r Montclare, Dulyn gyda’r siaradwr a’r canwr gwadd Cerys Matthews.

 

2014:  Parti yn Scruffy Murphy’s, Dulyn.

 

2013:  Cinio yng Ngwesty’r Alexandra, Dulyn gyda’r siaradwr gwadd Alun Wyn Bevan.

 

2012:  Parti yn Doheny & Nesbitt’s, Dulyn.

2011:  Cinio yn Ngwesty’r Alexandra, Dulyn gyda’r siaradwr gwadd John Dawes.

 

2010:  Parti yn Scruffy Murphy’s, Dulyn.

 

2009: Cinio yng Ngwesty’r Montclare, Dulyn gyda’r siaradwr gwadd Roy Noble.

 

2008:  Cinio yng Ngwesty’r Montclare, Dulyn gyda’r siaradwr gwadd Dafydd Wigley.

 

2007:  Cinio yng Ngwesty’r Montclare, Dulyn gyda’r delynores wadd Ann Jones.

 

2006:  Cinio yng Nghlwb Rygbi Old Belvedere, Dulyn.  Dim siaradwr gwadd.

 

2005:  Cinio yng Nghlwb Rygbi Old Belvedere, Dulyn gyda’r siaradwr gwadd John Davies.

 

2004:  Parti yn Scruffy Murphy’s, Dulyn.

 

2003:  Parti yn y Goat Bar, Goatstown, Dulyn

 

2002:  Parti yng Nghlwb y Peirianwyr, Dulyn

 

Howell Evans

Howell bach

Fe farwodd aelod hynaf y Ddraig Werdd, Howell Evans, 21 Ionawr 2012 yn Nulyn yn 104 mlwydd oed, wedi salwch byr.   ‘Roedd Howell wedi byw y rhan fwyaf o’i fywyd yn Nulyn, ar ôl i’r teulu symud yna pan oedd Howell yn grwt bach pan gafodd ei dad ei drosglwyddo o Gaergybi trwy ei waith gyda’r cwmni rheilffordd HMS.  Ar wahân i gyfnod pan fynychodd ysgol uwchradd yng Nghaergybi, treuliodd Howell weddill ei fywyd yn Nulyn.  Er hynny, parhaodd yn Gymro a siaradodd y Gymraeg rhugl a ddysgodd wrth yr aelwyd trwy gydol ei fywyd.

‘Roedd Howell a’i deulu yn aelodau ffyddlon o’r capel Cymraeg yn Talbot Street, Dulyn, tan i’r capel gau yn ystod yr ail ryfel byd.  Gallwch ddarllen hanes y capel a chofion Howell amdano trwy fynd i http://www.welshsociety.ie/wp/wp-content/uploads/2014/10/Capel-Cymraeg.pdf.   Cymrodd rhan hefyd pan oedd yn 103 mlwydd oed mewn rhaglen am y capel a ddarlledwyd ar deledu RTE y llynedd – cliciwch yma i wylio’r darn.   ‘Roedd Howell hefyd yn aelod sylfaenol o Gôr Meibion Cymry Dulyn, yn canu gyda nhw tan ei 80au hwyr, ac yn aelod selog o Gymdeithas Dewi Sant.

‘Roedd Howell yn dal yn fywiog ac yn effro ac wedi cadw diddordeb bywiog mewn bywyd lan i’r diwedd.  ‘Roedd e’n byw yn ei gartref ei hun yn Blackrock nes i salwch ei orfodi i symud i gartref nyrsio yn Glenageary, Dulyn, am y 15 mis olaf ei fywyd, lle fwynhaodd gofal a charedigrwydd y staff.  Ei unig gwyn oedd y ffaith y byddai’n anodd cael sgwrs gyda’i gyd-breswylwyr, gan fod y cartref yn “llawn o bobl henoed”, fel y wedodd wrthyf yn fuan cyn iddo fe farw.   Mae cyfnod wedi darfod gyda’i farwolaeth, a byddaf finnau o leiaf yn colli fy ymweliadau rheolaidd yna lle oeddem yn mwynhau’r cyfle i sgwrsio gyda’n gilydd mewn iaith y nefoedd.  Gobeithio cawn e ddigon o gyfle i barhau gwneud hynny yn y bywyd i ddod.

Geraint Waters

Wrth Angor yn Nulyn

Image (79)            Image (77)

Mae’r llyfr “At Anchorage in Dublin”, hanes o’r capel Cymraeg yn Nulyn, wedi ei gyhoeddi gan Gymdeithas Achyddol Iwerddon ar Ddydd Gŵyl Dewi.   Mae hon yn gyfieithiad i’r Saesneg o “Wrth Angor yn Nulyn” gan Huw Llewelyn Williams, a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 1968.   Mae’r cyfieithiad newydd gan Meirion Llewelyn Williams, mab yr awdur gwreiddiol.   Mae’r llyfr yn disgrifio canrif o’r hanes ac atgofion o’r amserau, o’r bobl ac yn y diwedd o’r cau a’r trosglwyddiad o’r Capel Methodistaidd i Gymru.  Mae’r llyfr hefyd yn awr yn cynnwys y Rhestrau Priodasau (1892-1936) a Bedyddiadau (1839-1923) a gwybodaeth achyddol arall.  ISBN: 978-1-898471-72-1 : Pris €6.00 (£5.00).

Ewch i http://www.welshsociety.ie/cymraeg/diddordebau/ am fwy o wybodaeth o’r wefan hon am y capel.