Mudiad wedi ei sefydlu yng Ngweriniaeth Iwerddon yw ‘Draig Werdd – the Welsh Society in Ireland’ gyda’r bwriad o godi ymwybyddiaeth am Gymru a materion Cymreig yn Iwerddon, ac i roi rhwydwaith cymdeithasol i’r Cymry sydd yn byw yn Iwerddon.
Mae’n cynnwys unigolion o wahanol gefndiroedd cenhedlig a diwylliannol sy’n awyddus i hybu materion Cymreig yn Iwerddon, a hynny ar adeg pan fo cyfnod newydd ar ddechrau ym mywyd gwleidyddol, economaidd a diwyliannol Cymru gyda sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd.
Llaw dirion dealltwriaeth
dros y dŵr
yw stori’n cenhadaeth,
dwy law tu draw i ddau draeth
yn dala’r un frawdoliaeth

Dwy law yn cudio’n dawel,
a dwy law’n
dal dwy wlad yn ddiogel,
y ddwy yn dal, doed a ddêl,
‘run gwir ar yr un gorwel.
Mererid Hopwood, Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi, Awst 2002
Newyddion diweddaraf o BBC Wales:
- Dementia: More support urged for 'hidden' carers
- Welsh Water plant plans at Merthyr opposed by residents
- European Taekwondo Championships: Jade Jones and Lauren Williams target Manchester gold
- Music teaching: Free instruments plan for all pupils
- Swansea City: Lost photo captures team on brink of glory
- Dathlu canmlwyddiant Neges Ewyllys Da yr Urdd
- Pob plentyn i gael cynnig offeryn cerdd yn yr ysgol
- 'Cefnogaeth iawn gan ofalwyr yn g'neud byd o wahaniaeth'
- Schools: The difficulties of getting back to normal
- Richard Mylan: Response to heroin secret overwhelms TV star