Cymdeithas Gymreig Dulyn 1964-69
Efallai y bydd gennych ddiddordeb i wybod bod Cymdeithas Gymreig Dulyn wedi bodoli rhwng 1964 a 1969. Cafodd hon ei ffurfio yn bennaf gan grŵp o Gymry a oedd yn astudio ar y pryd yn Nulyn, ond oedd hefyd yn cynnwys preswylwyr tymor hir o’r ddinas. ‘Roedd y gymdeithas yn trefnu cyfarfodydd misol gydag amrywiaeth o siaradwyr a gweithgareddau yn ogystal â chinio blynyddol i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi yn y ddinas bob blwyddyn, ac a fynychwyd yn dda iawn. Arweiniodd cyfarfodydd y gymdeithas hefyd at ffurfio côr yn Hydref 1966 a ddaeth yn adnabyddus fel Côr Meibion Cymry Dulyn. Rhoddodd y gymdeithas yn y pen draw’r gorau i gyfarfod yn 1969 pryd y penderfynwyd y byddai’r côr yn cymryd y fantell fel ffocws gymdeithas Gymreig yn y ddinas. Mae’r côr wedi parhau i wneud hynny heb ymyrraeth ers hynny ac wedi dathlu 50 mlynedd ers ei sefydlu ym mis Hydref 2016. Ei arweinydd am 40 mlynedd oedd Keith Young, a wasanaethodd am gyfnod fel trysorydd y Gymdeithas Gymreig Dulyn yn ystod ei bodolaeth.
Mae Keith a chyd aelod Cymdeithas Gymreig Dulyn (a Draig Werdd) Gareth Lloyd Jones wedi rhoi dogfen at ei gilydd sy’n cynnwys cofnodion mewn llawysgrifen o gyfarfodydd y gymdeithas yn ystod ei bodolaeth. Cliciwch yma i weld y ddogfen hon. Efallai bydd y lluniau isod hefyd yn dod ac atgofion yn ôl i’r rhai oedd yn perthyn i’r gymdeithas yn y 60au. Maen nhw’n dangos ochr ffrynt ac ochr gefn cardiau aelodaeth y Gymdeithas yn 1964-65 a 1965-66. Maent yn ddiddorol ynglŷn â gweithgareddau’r gymdeithas a’r bobl oedd yn cymryd rhan, rhai ohonynt sydd yn dal i fod yn aelodau o’r Ddraig Werdd. Teithiodd trysorydd cyntaf y gymdeithas, Richard Lloyd-Jones, o Awstralia yn ddiweddar i gymryd rhan fel aelod o’r côr mewn cyngerdd Côr Meibion Cymry Dulyn yn y Neuadd Gyngerdd Genedlaethol, Dulyn i ddathlu 50 mlynedd ers sefydliad y côr, ac mae un o aelodau’r pwyllgor cyntaf, Janice Williams, yn dal yn aelod gweithredol o’r Ddraig Werdd.
Diolch i Keith a Gareth am ymchwilio a rhoi’r cofnodion at eu gilydd a hefyd i Gareth am ddarparu’r lluniau, ar ôl iddo fe ddod ar eu traws wrth iddo fe dwtio ymhlith ei hen bethau!
Padraig Pearse a’r Eisteddfod Genedlaethol 1899
Un agwedd ddiddorol o gysylltiadau Cymreig-Gwyddelig sydd yn gymharol anadnabyddus oedd sefydlu Padraig Pearse fel aelod o Orsedd y Beirdd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1899 a gynhaliwyd yng Nghaerdydd. Wedyn daeth Pearse yn arweinydd Gwrthryfel y Pasg yn 1916 a chafodd ei ddienyddio am ei gyfraniad.
Cliciwch yma i lawr lwytho dogfen pdf sy’n cynnwys lluniau a thorion o’r wasg sydd yn ymwneud â’r digwyddiad hwn, ac sydd yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 1999. Mae’r ddogfen yn cyfeirio at yr “Eisteddfod Pan-Geltaidd ” yn hytrach na’r ” Eisteddfod Genedlaethol “, a achosodd peth dryswch ymhlith y staff golygyddol Draig Werdd. Fodd bynnag, rydym yn ddiolchgar i Kevin Barry o Brifysgol Delaware am glirio’r dryswch gyda’r eglurhad canlynol:
Mae’r Gymdeithas Geltaidd (enw swyddogol y mudiad Pan-Geltaidd a ffurfiwyd yn 1898), a gynlluniwyd i ddal, ac yn wir, a ddaliodd) Cyngresau’r Pan-Geltaidd bob tair blynedd yn un o’r gwledydd Celtaidd. Fe drefnwyd yr un cyntaf ar gyfer 1900 (wedi ei ohirio yn ddiweddarach tan 1901) yn Nulyn. Fodd bynnag, pan benderfynodd cynrychiolaeth y Pan-Celtiaid i ymweld â’r Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd yn 1899, gwnaed penderfyniad i wneud y derbyniad o’r ymwelwyr Pan-Geltaidd yn rhan ganolog o’r Eisteddfod. Felly dechreuodd y Gymdeithas Geltaidd gyfeirio ato fel Eisteddfod y ‘ Pan-Geltaidd ‘, a dechreuodd hyd yn oed y Western Mail mabwysiadu’r arfer o gyfeirio at Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd fel ‘ Eisteddfod Pan-Geltaidd.’
Cynhaliodd y Gymdeithas Geltaidd gwreiddiol tri Cyngres Pan-Geltaidd, un yn Nulyn yn 1901, un yn Aberystwyth yn 1904, ac un yng Nghaeredin yn 1907. O’r tri, Aberystwyth oedd o bell ffordd yr un mwyaf llwyddiannus, gan ei fod yn llwyddo i wneud elw o tua £160. ‘Roedd y ddau arall yn arwain at golledion sylweddol, a hwn oedd y prif reswm bod y cynnig cyntaf i greu cymdeithas Pan-Geltaidd gweithredol wedi methu.
Y Capel Cymraeg yn Nulyn
Ymysg papurau Cyfarfod Misol Môn a gedwir yn archifdy’r Sir yn Llangefni ceir casgliad hynod o ddiddorol yn ymwneud â Chapel Cymraeg Talbot Street Dulyn, yr unig gapel Cymraeg a fu yn Iwerddon ac a ddôi o dan awdurdod Henaduriaeth Môn.
Fel y gellid disgwyl, fel Achos Cenhadol i’r cannoedd o forwyr Cymreig a ymwelai â’r ddinas y cychwynnwyd pethau, gan gynnal gwasanaethau yn y gwahanol longau a ddigwyddai fod ym mhorthladd Dulyn. Teimlid mai pur ddiffygiol oedd y trefniant yma ac ym 1838 adeiladwyd capel yn Talbot Street, heb fod ymhell o ganol y ddinas. Gydag agor y capel ehangwyd y gynulleidfa i gynnwys y Cymry hynny a weithiai yn y ddinas ei hun. Er hyn i gyd ‘roedd y naws forwrol yn dal yn gryf. Gelwid y galeri yn “quarter deck” a dim ond morwyr a gâi eistedd yno. Ar lawr y capel, neu’r “main-deck” fel y’i gelwid, eisteddai’r dynion ar y “starboard” (yr ochr dde) a’r merched ar y “port side” (yr ochr chwith). Ceid yno hefyd rai pethau annisgwyl, fel “spitoons” ger rhai o seddau’r dynion ac ar y dechrau caniateid smocio.
Ynys o Gymreictod oedd y capel yng nghanol Dulyn ac ‘roedd hyn yn peri syndod ac edmygedd i’r Gwyddelod, fel yr esbonia Ernest Blythe, gweinidog cyllid llywodraeth Iwerddon ym 1951:
When I joined the Gaelic League and began to learn Irish, one of my fellow members told me, almost with bated breath, that the Welsh community in Dublin had its own church in which services were conducted in Welsh. I went there one Sunday morning to revel in the sound of a language closely related to Irish. That little Welsh-speaking congregation, maintaining its individuality in a foreign city, made a profound impression on me.
Eto, ‘roedd yno ochr arall o gofio hanes cythryblus Iwerddon. Er nad ymosodwyd erioed ar aelodau o’r capel, ‘roedd yna ddrwgdeimlad yn erbyn Protestaniaid yn nyddiau Parnell, yn enwedig gyda methiant y Mesurau Ymreolaeth, y teimlad cyffredinol ymysg y Gwyddelod oedd mai’r Protestaniaid a’u gwrthwynebiad oedd un o’r rhesymau dros y methiant. Yn y cyfnod yma, teflid cerrig at y capel gan falu ffenestri. ‘Roedd un aelod mor ofnus fel y deuai i’r gwasanaeth gyda refolfer yn ei boced. Yn yr un modd creodd Gwrthryfel y Pasg ym 1916 drafferthion a bu’n rhaid cau’r capel am dros wythnos oherwydd yr ymladd. Yn ystod y gwrthryfel, yn ôl y sôn, cafodd John Lewis y gweinidog fwled drwy gantel ei het.
Er mynd drwy ddyddiau cythryblus, dal i rygnu ymlaen a wnâi’r capel, er bod nifer yr aeloddau yn mynd yn llai bob blwyddyn. Ym mis Rhagfyr 1939 penderfynwyd yng Nghyfarfod Misol Llangefni i gau’r capel dros gyfnod y rhyfel, “oherwydd yr anawsterau sydd ar ffordd gweinidogion i groesi’r dwr i’w cyhoeddiadau”. Yn Awst 1944 adroddwyd yng Nghyfarfod Misol Cefn Bach fod y capel wedi ei werthu a dyna ddiwedd ar unig gapel y Methodistiaid Calfinaidd yn Iwerddon.
Deil adeilad y capel i sefyll yn Talbot Street. Am gyfnod bu’n siop esgidiau, wedyn yn neuadd snwcer. Tybed a fyddai’n syniad rhoi plâc ar yr adeilad i nodi beth ydoedd. Beth yw barn aelodau Draig Werdd am hyn?
Yr oedd un o aelodau Draig Werdd, Howell Evans, a farwodd yn ddiweddar yn 104 mlwydd oed, yn aelod blaenorol o’r capel. Cliciwch yma i ddarllen hanes y capel gan Howell ei hun (yn Saesneg), sy’n cynnwys ei atgofion personol.
Mae’r llyfr “At Anchorage in Dublin”, hanes o’r capel Cymraeg yn Nulyn, wedi ei gyhoeddi gan Gymdeithas Achyddol Iwerddon ar Ddydd Gŵyl Dewi. Mae hon yn gyfieithiad i’r Saesneg o “Wrth Angor yn Nulyn” gan Huw Llewelyn Williams, a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 1968. Mae’r cyfieithiad newydd gan Meirion Llewelyn Williams, mab yr awdur gwreiddiol. Mae’r llyfr yn disgrifio canrif o’r hanes ac atgofion o’r amserau, o’r bobl ac yn y diwedd o’r cau a’r trosglwyddiad o’r Capel Methodistaidd i Gymru. Mae’r llyfr hefyd yn awr yn cynnwys y Rhestrau Priodasau (1892-1936) a Bedyddiadau (1839-1923) a gwybodaeth achyddol arall. ISBN: 978-1-898471-72-1 : Pris €6.00 (£5.00). I gael copi of llyfr, cysylltwch â’r Gymdeithas Achyddol Iwerddon trwy eu gwefan ar http://www.familyhistory.ie.
01/03/2012 Mae’n drist gennym gyhoeddi bod Howell Evans wedi marw ym mis Ionawr 2012 yn 104 mlwydd oed. ‘Rydyn ni wedi derbyn newyddion o Mr. Gwynn Jones yn Sir Fôn bod aelod arall o’r capel yn dal yn fyw, Miss Netta Jones, sydd yn awr yn byw ger Caergybi yn Sir Fôn. Derbyniasom hefyd o Mr. Jones gopi o’r erthygl hynod o ddiddorol a gwelir isod, allan o’r ‘Drysorfa’ (cylchgrawn y Methodistiaid Calfinaidd yng Nghymru) sydd yn sôn am agoriad y capel yn 1838.