Newyddion a Digwyddiadau

Party Gŵyl Dewi 1 Mawrth 2021

Gyda’r cyfyngiadau ar deithio a chyfarfodydd cyhoeddus oherwydd y cyfnod cloi Covid, nid oeddem yn gallu cyfarfod yn bersonol i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi yn 2021. Yn lle hynny gwnaethom nodi’r achlysur trwy gyfarfod ar-lein trwy Zoom – hwn oedd y tro cyntaf i ni wneud hyn ac roedden ni’n ansicr o’i lwyddiant, ond beth bynnag, rhedodd popeth yn esmwyth ac yn llwyddiannus a chafodd ei fwynhau’n fawr gan bawb a oedd yn bresennol ar-lein. Cafodd y fantais hefyd o roi cyfle i bobl o bob rhan o Iwerddon ymuno am y tro cyntaf â’n dathliadau Dydd Gŵyl Dewi.

Yn ystod ein cymdeithasu yn ystod y 30 munud cyntaf, cyhoeddodd Angharad a Justin enillydd y gystadleuaeth gelf sef Greta o Offaly (a oedd ar-lein gyda ni ar y pryd), ar gyfer y llun canlynol:

Enillwyd ein cwis ar Gymru gan Greg Owen ac fe’i dilynwyd gan gyfres o fideos cerddoriaeth a darlleniadau a gyflwynwyd gan Richard Morgan (‘Can yn Ofer’ a ‘Môr o Gariad’) a Gareth Llwyd Jones, a gyflwynodd 2 fideo o Gôr Meibion Cymry Dulyn, yr ail ohonynt berfformiad o ‘O Gymru’ a roddwyd yn ein dathliadau Dydd Gŵyl Dewi yn Amgueddfa EPIC yn Nulyn ym mis Mawrth 2020, eu hymddangosiad cyhoeddus olaf cyn y cyfnod cloi.

Yn anffodus, nid oedd yr actor a chanwr/ysgrifennwr caneuon o Gymru Ryland Teifi, sydd bellach yn byw yn Waterford gyda’i wraig Wyddelig Roisin Clancy a’i deulu, yn gallu ymuno â ni’n bersonol ond anfonodd y fideo hwn atom ni i’w rannu ar y noson:

Cawsom hefyd gyfle i glywed rhai caneuon byw dros Zoom o Catrin Prys-Williams yn Nulyn a Nan Lloyd Guinan yn Offaly. Arweiniodd Nan ni mewn perfformiad o ‘Moliannwn’ a chanodd Catrin y gân ‘Carol Catrin’, a ysgrifennwyd ac a gysegrwyd iddi gan ei pherthynas Aneurin Prys-Williams.

Ar ôl cymdeithasu ymhellach fe wnaethom orffen y sesiwn ar-lein trwy chwarae’r perfformiad byrlymus hwn o Hen Wlad fy Nhadau gan y dorf yn yr hen Barc yr Arfau yng Nghaerdydd cyn y gêm yn erbyn Seland Newydd yn 1967, gyda’r gwahoddiad i gyd-ganu (gyda ‘mute’ ymlaen, wrth gwrs….):

Statws Gwarchodedig i’r Hen Gapel Cymraeg, Dulyn

Chapel

Yn dilyn ymgyrch gan Ddraig Werdd mae’r hen gapel Cymraeg Bethel ar Talbot Street wedi derbyn statws gwarchodedig gan Gyngor Dinas Dulyn.

Un o’r adeiladau hynaf ar Stryd Talbot, mae’r adeilad o ddiddordeb hanesyddol gan ei fod yn man addoli ar gyfer y gymuned Gymreig yn Nulyn ac ar gyfer ymwelwyr a morwyr Cymreig ers dros 100 mlynedd. Dyma’r unig dystiolaeth ar ôl yn Nulyn o’r cysylltiadau rhwng Dulyn a Chymru yn ystod y cyfnod hwn, ag mae’r ffurf allanol yr adeilad yn hollol adnabyddadwy fel capel Cymraeg o’r cyfnod Fictoraidd cynnar.

Mae aelodau Draig Werdd wedi gweithio’n ddiflino i gofnodi hanes capel Bethel a’i arwyddocâd i Gymru ac i Iwerddon. Cafodd yr ymgyrch ei chefnogi gan An Taisce, Astudiaethau Celtaidd UCD, Côr Meibion Cymry Dulyn, Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru, Jill Evans ASE Llywydd Plaid Cymru, Cadw, yr Henaduriaeth Môn, Capel Hyfrydle Caergybi a Chyngor Tref Caergybi a phob TD o fewn Ddylun.

Gellir cael manylion pellach am y Capel trwy fynd yma.    Cliciwch ar y dolenau isod i ddarllen rhagor o eitemau newyddion am benderfyniad y cyngor:

http://www.dailypost.co.uk/whats-on/arts-culture-news/welsh-chapel-dublin-awarded-protected-9298698

Cafodd y newyddion ei ddarlledu hefyd ar newyddion S4C ar 4/6/15.  Cliciwch yn isod i weld yr adroddiad (yn Gymraeg gydag is-deitlau Saesneg).

 

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *