Oriel

Sgwrs Gruffudd ap Cynan 5/3/2023

Bu’r delynores Ann Jones yn croesawu criw o aelodau Draig Werdd yn ei chartref ar fryn uwchben Kilternan, Co. Dulyn ar brynhawn Sul 5ed Mawrth 2023, am sgwrs am Gruffudd ap Cynan, tywysog Gwynedd o 1081-1137, a’i gysylltiadau ag Iwerddon . Cyfoethogwyd ei sgwrs gyda darluniau cerddorol perthnasol a chwaraewyd gan Ann ar un o’i thelynau niferus.  Dyma nifer o luniau o’r achlysur.

Derbyniad Dydd Gwyl Dewi 01/03/2023

Lluniau o rai o aelodau Draig Werdd a Chôr Meibion Cymry Dulyn a oedd mewn derbyniad a gynhaliwyd gan swyddfa Llywodraeth Cymru yn Iwerddon yn y Royal Irish Academy yn Nulyn i nodi Dydd Gŵyl Dewi 2023 yn Iwerddon. Cafwyd adloniant cerddorol gan y delynores Gymreig enwog Catrin Finch a’r feiolinydd Gwyddelig Aoife Ní Bhriain. Ffotograffau trwy garedigrwydd Aaron Daly.

Taith gerdded 22/1/2023

I gyd-fynd â Dydd Santes Dwynwen (nawddsant cariadon Cymru) ar Ionawr 26ain, gwnaeth nifer o aelodau daith gylchol o amgylch Howth yn Nulyn, a oedd yn cynnwys golygfeydd o oleudy’r Baily, yn debyg i’r un ar Ynys Llanddwyn oddi ar y arfordir Môn, lle y terfynodd Santes Dwynwen ei dyddiau, a lle daeth yr eglwys a gododd hi yn lle pererindod yn y canol oesoedd. Gorffennodd y daith gyda bara brith a phicie ar y maen, wedi’u golchi i lawr gydag ychydig o ddiod, yn un o’r dafarndai yn Howth.

Noson Alltudion Cymreig 10/3/2020

Cynhaliodd Draig Werdd, ynghyd â Global Wales Dulyn, noson gymdeithasol ddydd Mawrth 10 Mawrth fel rhan o Wythnos Cymru Dulyn, a gynhaliwyd rhwng 9-13 Mawrth yng nghyntedd adeilad CHQ ar Custom House Quay yn Nulyn. Llwyddodd y rhai a oedd yn bresennol i gymdeithasu dros fwyd a diod a chawsant eu difyrru gan gerddoriaeth ar y delyn gan aelod Draig Werdd Ann Jones Walsh a Chôr Meibion Cymry Dulyn, gyda’u harweinydd Brian Murphy a’r cyfeilydd John Shera. Cafwyd darlleniadau barddoniaeth a rhyddiaith yn Gymraeg a Saesneg, rhai gwersi Cymraeg enghreifftiol a sgwrs gan Global Welsh Dulyn am eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn ystod y noson yn Dome Cymru, a godwyd fel lleoliad ar gyfer digwyddiadau Wythnos Cymru Dulyn.

Dathliad Gŵyl Dewi yn Amgueddfa Genedlaethol Iwerddon – 21/2/2019

Cynhaliodd Llywodraeth Cymru dathliad Dydd Gŵyl Dewi yn Amgueddfa Iwerddon – Archaeoleg ar nos Iau Chwefror 21ain 2019 i nodi dydd Gŵyl Dewi ac i lansio partneriaeth newydd rhwng Amgueddfeydd Cenedlaethol Cymru ac Iwerddon. Yn bresennol roedd cyfarwyddwyr y ddwy amgueddfa yn ogystal â’r Arglwydd Dafydd Elis Thomas AC yn cynrychioli llywodraeth Cymru, Sean Kyne, prif chwip y llywodraeth Iwerddon a’r Gweinidog Gwladol dros yr Iaith Gwyddeleg a’r Llysgennad Prydeinig Robin. Darparwyd adloniant gan Gwyneth Glyn a Twm Morys o Gymru.

Taith Gerdded Bray-Greystones 25 Mehefin 2016

Cafodd un o’n teithiau cerdded blynyddol (neu ambellwaith dwywaith y flwyddyn) ei gynnal ar ddydd Sadwrn 25 Mehefin 2016, pan gerddasom y llwybr arfordirol o Bray i Greystones. ‘Roedd y diwrnod yn un pleserus iawn, gyda golygfeydd gwych dros Fôr Iwerddon ac ar hyd yr arfordir, a llawer o gyfle i siarad ar hyd y ffordd, a hefyd dros disgled o de neu rhywbeth cryfach yn Greystones wrth wylio Cymru yn curo Gogledd Iwerddon 1-0 yn Euro 2016.

Mae rhai lluniau o’r daith gerdded yn cael eu dangos isod – cliciwch ar unrhyw un o’r bawdluniau i’w wneud yn fwy.