Ein Hamcanion
Mae amcanion y grwp yn cynnwys:
- Codi proffeil Cymru a materion Cymreig yn Iwerddon ymhlith sefydliadau, busnesau ac unigolion drwy ddefnyddio ‘r cyfryngau, a chysylltu a sefydliadau gwleidyddol ac unigolion. Mae hyn yn cynnwys codi ymwybyddiaeth o faterion cyfoes Cymreig ym meysydd gwleiyddiaeth, economeg, iaith, diwylliant a.y.b.
- Dwyn sylw at gamsyiadau a chamgymeriadau mewn gywbodaeth am Gymru yn y cyfryngau ac ymhlith y boblogaeth yn Iwerddon.
- Bod yn ddolen gyswllt i basio mlaen i sefydliadau neu unigolion priodol yng Nghymru unrhyw brofiadau Gwyddelig ym meysydd gwleidyddaieth, economeg a diwylliant sydd o ddiddordeb.
- Meithrin ymwybyddiaeth ac undod gweithredu ymhlith unigolion yn Iwerddon sydd am gyfrannu at ddatblygiant identiti Cymreig dros y mor.
Does gan Draig Werdd ddim cysylltiad a unrhyw plaid wleidyddol na grwp arall. Caiff ei ariannu drwy gyfraniadau gan aelodau a gweithgareddau codi arian. Croeso i unrhwy berson sy’n rhannu’r amcanion uchod i ymuno.
Mae Draig Werdd yn trefnu cyfarfodydd cyhoeddus a nosweithiau cymdeithasol er mwyn hybu amcanion y grwp. Cyhoeddir cylchlythyr i’w ddosbarthu i aelodau a grwpiau eraill sydd a diddordeb.
Rheolaeth Draig Werdd
Mae Draig Werdd o dan reolaeth cyfansoddiad ysgrifenedig – cliciwch yma i lawrlwytho copi (yn Saesneg). Mae’r cyfrifoldeb o redeg y gymdeithas gyda’r pwyllgor a etholir yn ein cyfarfod cyffredinol blynyddol ym mis Hydref.
Aelodau’r pwyllgor i’r flwyddyn 2019-2020 yw:
Richard Morgan (cadeirydd)
Anne Buttimore (ysgrifennydd)
Geraint Waters (trysorydd)
Gareth Llwyd Jones
Andrew Thomas
Angharad Williams
Justin Smith