3 thoughts on “Welsh connections of Dublin / Cysylltiadau Cymreig Dulyn”

  1. Yr erthyglau yn hynod o ddifyr!!
    Roedd fy nhaid – E Wynn Jones – yn arfer pregethu yn y Capel Cymraeg yn Nulyn pan oedd yn weinidog yng Nghapel Tabernacl, Caergybi. Roedd fy nhad a’m modryb yn gyfarwydd iawn â’r ddinas a hithau – fy modryb Enid a nghyflwynodd innau i’r ddinas am y tro cyntaf.
    Lle gwahanol iawn i’r ddinas sydd ohoni heddiw!

    1. Diolch am yr ymateb, Gwyneth. Diddorol i glywed bod eich taid wedi pregethu yn yr hen gapel pan oedd yn weinidog yng Nghaergybi – mae’n hyfryd i gael cysylltiad personol gyda’r capel. Fel mae’n digwydd, mae’r hen lestri cymun o Fethel yn cael eu cadw yng nghapel Hyfrydle yng Nghaergybi (lle oedd perthynas i finnau – Henry James – yn weinidog am flynyddoedd hefyd).

      1. Wel dyma fi’n ymateb o’r diwedd!
        Blwyddyn Newydd Well wrth gwrs!
        Diddorol iawn am y llestri cymun! A’ch cysylltiad chitha â Chaergybi yn wir. Roeddan ni’n byw yng Nghaergybi am ryw 4 blynedd. Roeddwn yn mynd i’r ysgol gynradd, Ysgol Cybi. Yr ysgol fues i fwya hapus ynddi allan o’r 5!
        Sgwn i be fydd dyfodol porthladd Caergybi rŵan 🤔

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *