St. David’s Celebration 10/03/20 Dathliad Gŵyl Dewi

Draig Werdd – the Welsh Society in Ireland and Global Welsh Dublin are hosting a St. David’s celebration on Tuesday March 10th as part of Wales Week in Dublin 2020. This will be taking place from 6.30-9pm in the Dome at the CHQ Building, Custom House Quay, Dublin 1.

We will be celebrating our national day in this unique setting with music from Dublin Welsh choir, poetry and prose as well as the opportunity to have a few Welsh lessons and meet various guests who will be dropping by. Admission is free – no booking is required so make a point of joining us for the evening to celebrate being Welsh in Ireland.

Wales Week in Dublin is an initiative of the Welsh Government in partnership with Wales Week Worldwide. Go to http://www.welshsociety.ie/activities/ for more information and a map of the location.

Bydd Draig Werdd – y Gymdeithas Gymreig yn Iwerddon a Global Welsh Dulyn yn cynnal dathliad Gŵyl Dewi nos Fawrth Mawrth 10fed fel rhan o Wythnos Cymru yn Nulyn 2020. Bydd hyn yn digwydd rhwng 6.30-9pm yn y Dome yn Adeilad CHQ, Custom House Quay, Dulyn 1.

Byddwn yn dathlu ein diwrnod cenedlaethol yn y lleoliad unigryw hwn gyda cherddoriaeth gan Gôr Meibion Cymry Dulyn, barddoniaeth a rhyddiaith ynghyd â’r cyfle i gael ychydig o wersi Cymraeg a chwrdd â gwesteion amrywiol a fydd yn galw heibio. Mae mynediad am ddim  – ‘does dim angen archebu, felly gwnewch bwynt o ymuno â ni am y noson i ddathlu bod yn Gymro yn Iwerddon.

Mae Wythnos Cymru yn Nulyn yn fenter gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth â Wales Week Worldwide. Ewch i http://www.welshsociety.ie/cymraeg/gweithgareddau/ i gael mwy o wybodaeth a map o’r lleoliad.

Wales v Italy 1/2/2020 Cymru v yr Eidal

We will be meeting upstairs in Doheny & Nesbitts, Upper Baggot Street, Dublin 2 on Saturday 1 February for Wales’ first match in the 2020 Six Nations championship against Italy.  Kick-off is at 2:15pm.  Come along to watch the match with fellow Welshmen/women.  Look for the red jerseys!

Byddwn yn cwrdd lan llofft yn Doheny & Nesbitts, Upper Baggot Street, Dulyn 2 ddydd Sadwrn 1 Chwefror ar gyfer gêm gyntaf Cymru ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2020 yn erbyn yr Eidal.  Mae’r gêm yn dechrau am 2.15pm.  Dewch i wylio’r gêm gyda’ch cyd-Gymry.  Chwiliwch am y crysau coch!

CHERISH

CHERISH is a Welsh – Irish 5 year project looking at the effect of climate change on coastal archæology sites.

CHERISH (Climate, Heritage and Environments of Reefs, Islands and Headlands) is an exciting, 5 year European-funded Ireland-Wales project between the Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales, the Discovery Programme: Centre for Archaeology and Innovation Ireland, Aberystwyth University: Department of Geography and Earth Sciences and Geological Survey, Ireland. The project will receive €4.1 million through the Ireland-Wales 2014-2020 Programme.

CHERISH is a truly cross-disciplinary project. It aims to raise awareness and understanding of the past, present and near future impacts of climate change, storminess and extreme weather events on the rich cultural heritage of the Irish and Welsh regional seas and coast. They will be employing innovative techniques to study some of the most iconic coastal locations in Ireland and Wales.

The four main aims of CHERISH are to:

  • Target data and knowledge gaps to raise awareness of heritage in these remote coastal locations.
  • Discover, assess, map and monitor heritage on land and beneath the sea and establish new baseline data and recording standards.
  • Link land and sea.
  • Reconstruct past environments and weather history.

For more information, go to www.cherishproject.eu.

Mae CHERISH (Hinsawdd, Treftadaeth ac Amgylcheddau Riffiau, Ynysoedd a Phentiroedd/Climate, Heritage and Environments of Reefs, Islands and Headlands) yn brosiect Iwerddon-Cymru pum mlynedd cyffrous, a ariennir gan Ewrop, rhwng Comisiwn Brenhinol a Henebion Cymru, y rhaglen Discovery: Canolfan Archaeoleg ac Arloesedd Iwerddon, Prifysgol Aberystwyth: Yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, a’r Arolwg Daearegol, Iwerddon. Bydd y prosiect yn cael €4.1 miliwn trwy Raglen Iwerddon Cymru 2014-2020.

Prif nod CHERISH yw cynyddu gallu a gwybodaeth mewn perthynas ag addasu i newid hinsawdd ar gyfer Môr Iwerddon a’r Cymunedau Arfordirol.

Pedwar prif nod CHERISH yw:

  • Targedu bylchau o ran data a gwybodaeth er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r dreftadaeth yn y lleoliadau arfordirol anghysbell hyn.
  • Canfod, asesu, mapio a monitro treftadaeth ar y tir ac o dan y môr, a sefydlu safonau cofnodi a data gwaelodlin newydd.
  • Cysylltu’r tir a’r môr.
  • Ail-greu amgylcheddau a hanes tywydd y gorffennol.

Ewch i www.cherishproject.eu am fwy o wybodaeth.

Annual meeting 2019 Cyfarfod blynyddol

Unfortunately due to the unexpected unavailability of a private room at the venue, it was not possible for us to hold our planned annual meeting in Dublin at the start of our social evening on Nov 7th 2019.  In response to this, we have made the information that was to be presented to the meeting by the committee available online – this includes minutes of the previous year’s meeting, reports from the chairperson, secretary and treasurer, an update on the status of the plaque for the old Welsh chapel in Dublin and details of planned St. David’s celebrations and events for 2020.  Go to http://www.welshsociety.ie/news-and-events to see this information.

Any responses to this information or comments and suggestions about any other aspect of the society may be made by leaving a comment at the bottom of the web page or by sending an email to info@welshsociety.ie.

Yn anffodus nid oeddem yn gallu cynnal ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol fel y cynlluniwyd ar ddechrau ein noson gymdeithasol ar Dachwedd 7fed 2019 oherwydd yn annisgwyl nad oedd ystafell breifat ar gael yn y lleoliad ar y noson. Mewn ymateb i hyn, rydym wedi gwneud y wybodaeth a oedd i’w chyflwyno i’r cyfarfod gan y pwyllgor ar gael ar-lein – mae hyn yn cynnwys cofnodion cyfarfod y flwyddyn flaenorol, adroddiadau gan y cadeirydd, yr ysgrifennydd a’r trysorydd, diweddariad ar statws y plac i’r hen gapel Cymraeg yn Nulyn a’r digwyddiadau i ddathli Ddydd Gŵyl Dewi 2020 yn Iwerddon. Ewch i http://www.welshsociety.ie/cymraeg/newyddion-a-digwyddiadau i weld y wybodaeth hon.

Gellir ymateb i’r wybodaeth neu roi sylwadau neu awgrymiadau am unrhyw agwedd arall o’r gymdeithas trwy adael sylw ar waelod y dudalen we neu drwy anfon e-bost at info@welshsociety.ie.

Global Welsh next Dublin meeting / cyfarfod nesaf Dulyn

Thank you to all that came on 30 August to Sophie’s, it was lovely to meet you all and to introduce myself a bit more and the aims and progression of the GlobalWelsh initiative. As mentioned before, any questions can be directed to me or go to GlobalWelsh.com.  I understand that a lot of people have work or kids to deal with/look after on a Friday night. If it’s better that we do meet ups another time, please let me know and we’ll try our best to accommodate everyone. Any other suggestions about what you’d like to see more from us would be much appreciated as well.  Evan Aitken – evan@globalwelsh.com
The next meetup;
28th Sept – The Duke, Duke Street, Dublin 6:30pm
Diolch i bawb a ddaeth ar 30 Awst i Sophie’s, roedd yn hyfryd cwrdd â chi i gyd ac i gyflwyno ychydig yn fwy amdanaf fi fy hun a nodau a dilyniant y fenter GlobalWelsh. Fel y soniwyd o’r blaen, gellir cyfeirio unrhyw gwestiynau ataf neu fynd i GlobalWelsh.com. Rwy’n deall bod gan lawer o bobl waith neu blant i ddelio â nhw/gofalu amdanyn nhw ar nos Wener. Os yw’n well ein bod ni’n cwrdd o dro i dro, rhowch wybod i mi a byddwn yn ceisio ein gorau i ddarparu ar gyfer pawb. Byddem yn gwerthfawrogi’n fawr hefyd unrhyw awgrymiadau eraill am yr hyn yr hoffech weld mwy gennym. Evan Aitken – evan@globalwelsh.com
Cyfarfod nesaf:
28 Medi – The Duke, Duke Street, Dulyn 6:30yh