St. David’s Party / Parti Gŵyl Dewi

Thanks to all those who came to our St. David’s Day party in the Dropping Well in Dublin on 1st March and especially to Robin Barnett, British Ambassador in Ireland, for joining us in our celebrations.   And special thanks to all those who contributed to the success of the evening with flowers, Welsh cakes and crisps, bara brith, spot prizes and readings and to members of Dublin Welsh male voice choir for leading the singing.   Once again we had a very enjoyable and successful evening, celebrating our national day in Dublin.   Go to welshsociety.ie/gallery/ to see some photos from the evening.

Diolch i bawb a ddaeth i’n parti Gŵyl Dewi yn y Dropping Well yn Nulyn ar 1 Mawrth ac yn enwedig i Robin Barnett, Llysgennad Prydeinig yn Iwerddon, am ymuno â ni yn ein dathliadau. A diolch yn arbennig i bawb a gyfrannodd at lwyddiant y noson gyda blodau, piciau ar y maen a chreision Cymreig, bara brith, gwobrwyon raffl a darlleniadau ac i aelodau Côr Meibion Cymry Dulyn am arwain y canu. Unwaith eto, cawsom noson bleserus a llwyddiannus iawn, gan ddathlu ein diwrnod cenedlaethol yn Nulyn. Ewch i www.welshsociety.ie/cymraeg/oriel i weld rhai lluniau o’r noson.

Happy St. David’s Day! / Dydd Gŵyl Dewi hapus!

Draig Werdd would like to wish you a happy St. David’s Day, wherever you happen to be.  We’ll be celebrating in Ireland with a party tonight in Dublin, but wherever you are we hope you have the opportunity to celebrate our national day and to give thanks that, as the song says, we are ‘Yma o hyd’!

Hoffai Draig Werdd ddymuno Dydd Gŵyl Dewi hapus i chi, ble bynnag yr ydych chi’n digwydd bod. Byddwn yn dathlu yn Iwerddon gyda pharti heno yn Nulyn, ond lle bynnag yr ydych chi, gobeithiwn y cewch gyfle i ddathlu ein diwrnod cenedlaethol ac i roi diolch, fel mae’r gân yn dweud, ein bod ni ‘Yma o hyd’!

St. David’s Day Party 1/3/2019 Parti Gwyl Dewi

Don’t forget – our St. David’s Day party will be taking place at 8pm next Friday in the Dropping Well, Milltown, Dublin 6.  Come and celebrate St. David’s Day in Dublin and if you haven’t already done so, celebrate Wales’ great win against England with us.  Private room, food, drink, music, readings and plenty of hwyl.   Tickets €10, payable on the night.

Peidiwch ag anghofio – bydd ein parti Gŵyl Dewi yn cael ei gynnal am 8pm nos Wener nesaf yn y Dropping Well, Milltown, Dulyn 6. Dewch i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi yn Nulyn ac os nad ydych chi eisoes wedi gwneud hynny, i ddathlu buddugoliaeth Cymru yn erbyn Lloegr gyda ni. Ystafell breifat, bwyd, diod, cerddoriaeth, darlleniadau a llawer o hwyl. Tocynnau €10, yn daladwy ar y noson.

 

St. Davids’ Day Reception in the National Museum of Ireland 21/2/2019

The Welsh Government hosted a St. David’s Day reception in the rotunda of the National Museum of Ireland – Archaeology on the evening of  Thursday February 21st 2019 to mark St. David’s Day and to launch a new partnership between the National Museums of Wales and Ireland.  In attendance were the directors of both museums as well as Lord Dafydd Elis Thomas AM representing the Welsh government, Sean Kyne, Irish government chief whip and Minister of State for the Irish Language and the British ambassador Robin Barnett.  Entertainment was provided by Gwyneth Glyn and Twm Morys from Wales.  The event was organised by Kathryn Hallett of the Welsh Government office in Dublin.

Draig Werdd was represented at the function by committee members Richard Morgan, Anne Buttimore, Geraint Waters, Gareth Llwyd Jones and Andrew Thomas.  Go to http://www.welshsociety.ie/gallery/ to see some photos from the event.   Thanks to Gareth for taking the photos.

Cynhaliodd Llywodraeth Cymru dathliad Dydd Gŵyl Dewi yn Amgueddfa Iwerddon – Archaeoleg ar nos Iau Chwefror 21ain 2019 i nodi dydd Gŵyl Dewi ac i lansio partneriaeth newydd rhwng Amgueddfeydd Cenedlaethol Cymru ac Iwerddon. Yn bresennol roedd cyfarwyddwyr y ddwy amgueddfa yn ogystal â’r Arglwydd Dafydd Elis Thomas AC yn cynrychioli llywodraeth Cymru, Sean Kyne, prif chwip y llywodraeth Iwerddon a’r Gweinidog Gwladol dros yr Iaith Gwyddeleg a’r Llysgennad Prydeinig Robin Barnett. Darparwyd adloniant gan Gwyneth Glyn a Twm Morys o Gymru. Trefnwyd y digwyddiad gan Kathryn Hallett o swyddfa Llywodraeth Cymru yn Nulyn.

Cynrychiolwyd Draig Werdd gan aelodau’r pwyllgor Richard Morgan, Anne Buttimore, Geraint Waters, Gareth Llwyd Jones ac Andrew Thomas. Ewch i http://www.welshsociety.ie/gallery/ i wylio rhai lluniau o’r digwyddiad. Diolch i Gareth am dynnu’r lluniau.

 

Wales v England 23/3/19 Cymru v Lloegr

We will be meeting once again at Doheny & Nesbitts, Upper Baggot Street, Dublin 2 on Saturday afternoon 23 February for Wales’ next match in the 2019 Six Nations championship against England.  Kick-off is at 4.45pm.  Come along to watch the match with fellow Welshmen/women.  Just look out for the red jerseys.

Byddwn yn cwrdd unwaith eto yn Doheny & Nesbitts, Upper Baggot Street, Dulyn 2 prynhawn dydd Sadwrn 23 Chwefror ar gyfer gêm nesag Cymru ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2019 yn erbyn Lloegr.  Mae’r gêm yn dechrau am 4.45pm.  Dewch i wylio’r gêm gyda’ch cyd-Gymry.  Chwiliwch am y crysau coch.