BBC Radio Cymru

BBC Radio Cymru’s football magazine programme ‘Ar y Marc’ will be broadcast live from Dublin on 25th March, the morning after Wales play Ireland in a World Cup qualifier.  They are looking for Welsh-speaking football fans who live in Ireland to speak on the programme between 8.30am and 9am.   If you’d like to take part in the programme, send an email to Sandra Morris at sandra.morris@bbc.co.uk.

Bydd rhaglen gylchgrawn pêl-droed BBC Radio Cymru ‘Ar y Marc’ yn cael ei ddarlledu yn fyw o Ddulyn ar 25 Mawrth, y bore ar ôl i Gymru chwarae yn erbyn Iwerddon mewn gêm ragbrofol Cwpan y Byd. Maent yn edrych am gefnogwyr pêl-droed sydd yn siarad Cymraeg ac sy’n byw yn Iwerddon, i siarad ar y rhaglen rhwng 8:30 a 9 :00. Os hoffech chi gymryd rhan yn y rhaglen, anfonwch e-bost i Sandra Morris ar sandra.morris@bbc.co.uk.

Introductory Welsh Conversation Classes in Belfast

Consideration is currently being given to holding introductory Welsh conversation classes in Belfast.   These will be held in the TURAS offices, in the SKAINOS Centre (East Belfast Methodist Mission) on the Newtownards Road in Belfast.   TURAS is one of the four Irish language centres in Belfast.

If anyone is interested in attending or would like more information about the classes, please contact John Lyness on lynessmechanics@gmail.com (email) or 0044-28-9066557(phone)

Chapel plaque update / Newyddion plac y capel

We are continuing to discuss erection of a plaque on the old Welsh chapel in Talbot Street, Dublin with Dublin City Council.   The plaque has been made and is currently stored in the council offices.   However, the external condition of the building is a cause for concern for the council committee which authorises erection of the plaque, which has not yet received final approval from them.  Click here to see a report from the council on the current status of the campaign.  We will continue to liaise with the council in order to bring the issue to a final resolution and will keep you updated on progress.

Rydym yn parhau i drafod codi plac ar yr hen gapel Cymraeg yn Talbot Street, Dulyn gyda Chyngor Dinas Dulyn. Mae’r plac wedi cael ei wneud ac yn cael ei storio ar hyn o bryd yn swyddfeydd y cyngor. Fodd bynnag, mae cyflwr allanol yr adeilad yn peri pryder i’r pwyllgor y cyngor sy’n awdurdodi codi’r plac, sydd ddim wedi derbyn cymeradwyaeth derfynol eto oddi wrthynt. Cliciwch yma i weld adroddiad gan y cyngor ar statws presennol yr ymgyrch. Byddwn yn parhau i gysylltu â’r cyngor er mwyn dod â’r mater i benderfyniad terfynol a byddwn yn eich hysbysebu am ddatblygiadau.

St. David’s Dinner 4/3/2017 Cinio Gŵyl Dewi

Our dinner to commemorate St. David’s Day in Ireland was held last Saturday at the Hampton Hotel in Dublin.  Judging from the feedback we’ve received this was one of our most enjoyable such celebrations, thanks in no small part to our guest speaker Huw Llywelyn Davies, who spoke wittily and entertainingly after the dinner and socialised with the guests into the early hours of the morning.    Thanks to all those involved in organising the event and ensuring that the evening ran smoothly.   If you’d like to see some photos of the evening, go to http://www.welshsociety.ie/gallery/.

Cafodd ein cinio i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi yn Iwerddon ei gynnal nos Sadwrn diwethaf yng Ngwesty’r Hampton yn Nulyn. A barnu oddi wrth yr adborth a gawsom, hwn oedd un o’n dathliadau mwyaf pleserus o’r fath, diolch i raddau helaeth i’n siaradwr gwadd Huw Llywelyn Davies, a siaradodd yn ddoniol ac yn ddifyr ar ôl y cinio ag oedd yn cymdeithasu gyda’r gwesteion i mewn i oriau mân y bore. Diolch i bawb oedd ymwneud â threfnu’r digwyddiad ac yn sicrhau bod y noson yn rhedeg yn esmwyth.   Os hoffech chi weld nifer o luniau’r o’r noson, ewch i http://www.welshsociety.ie/cymraeg/oriel/.

Happy St. David’s Day / Dydd Gwyl Dewi Hapus

A happy St. David’s Day to all from Draig Werdd, wherever you are.   We will be celebrating the occasion in Dublin on Saturday with a dinner at the Hampton Hotel, with Welsh TV presenter Huw Llywelyn Davies as guest speaker.

Dydd Gŵyl Dewi hapus i bawb oddiwrth Draig Werdd, ble bynnag yr ydych. Byddwn yn dathlu’r achlysur yn Nulyn ddydd Sadwrn gyda chinio yng Ngwesty’r Hampton, gyda’r cyflwynydd teledu o Gymru, Huw Llywelyn Davies fel siaradwr gwadd.