Dublin Welsh Society 1964-69 Cymdeithas Gymreig Dulyn

The Dublin Welsh Society was in existence in the 1960s – out of it was formed the Dublin Welsh choir, which is still in existence and has just celebrated its 50th anniversary (www.dublinwelsh.com).   The society was a successor to the old St. David’s Society and pre-cursor (by several decades) of Draig Werdd.    The minutes of the society meetings have now been collected into a single document and can be viewed online by going to http://www.welshsociety.ie/features.  More information about the society and images of membership cards for 1964-65 and 1965-66 are also available at this location.

Dublin Welsh Soc 1964-65 innerDublin Welsh Soc 1964-65 front

Roedd  Cymdeithas Gymreig Dulyn yn bodoli yn y 1960au – allan ohoni ffurfiwyd côr Cymry Dulyn, sydd yn dal i fodoli ac sydd newydd wedi dathlu ei ben-blwydd yn 50 oed (www.dublinwelsh.com). Roedd y gymdeithas yn olynydd i’r hen Gymdeithas Dewi Sant a rhagflaenydd (drwy sawl degawd) i’r gymdeithas Draig Werdd. Mae cofnodion cyfarfodydd y gymdeithas bellach wedi cael eu casglu mewn un ddogfen ac i’w gweld ar-lein drwy fynd i http://www.welshsociety.ie/cymraeg/diddordebau. Mae rhagor o wybodaeth am y gymdeithas a lluniau o gardiau aelodaeth ar gyfer 1964-1965 a 1965-1966 ar gael hefyd yn y lleoliad hwn.

Chapel plaque update / Newyddion plac y capel

Draig Werdd recently met with Dublin City Council to discuss plans for erection of the plaque on the old Welsh chapel in Talbot Street, Dublin.  The council’s Commemorative Naming Committee has agreed to the erection of a plaque, as have the owners of the building, and the plaque has been created and is currently stored in the council’s offices.  However, due to the exterior condition of the building (see photo below), the council committee needs to agree an appropriate location for the plaque and to consider whether any preparation work needs to be done on this location.  No date has yet been set for the next meeting of the committee, but we will keep you informed of developments.

img_20160922_1031288391

Mae Draig Werdd wedi cwrdd yn ddiweddar gyda Chyngor Dinas Dulyn i drafod cynlluniau ar gyfer codi’r plac ar yr hen gapel Cymraeg yn Talbot Street, Dulyn. Mae’r Pwyllgor Coffa ac Enwi’r Cyngor wedi cytuno i godi plac, yn ogystal â pherchnogion yr adeilad, ac mae’r plac wedi ei greu ac yn cael ei storio ar hyn o bryd yn swyddfeydd y cyngor. Fodd bynnag, oherwydd cyflwr allanol yr adeilad (gweler y llun uchod), mae angen i’r pwyllgor y cyngor i gytuno ar leoliad addas ar gyfer y plac ac i ystyried a oes angen gwneud unrhyw waith paratoi ar y lleoliad hwn. Nid oes dyddiad eto wedi’i wneud ar gyfer cyfarfod nesaf y pwyllgor, ond byddwn yn eich hysbysu am ddatblygiadau.

 

AGM 2016 CCB

The Draig Werdd Annual General Meeting for 2016 took place in Dublin on 20th October.  The following committee was elected to serve for the coming year:

Richard Morgan (chairperson)
Anne Buttimore (secretary)
Geraint Waters (treasurer)
Gareth Llwyd Jones
Eifion Williams

Thanks and appreciation was expressed at the meeting to the outgoing chairperson, Robin Smith, who stepped down after over eight years in the position, and to the outgoing secretary Richard Bonney.   A report was given to the meeting on the status of the campaign to erect a plaque on the old Welsh chapel in Talbot Street and a discussion on this took place – a status update will be issued shortly to members.  The meeting was also informed of plans for our St. David’s Day celebrations in 2017 which have now been finalised – these will be publicised early in the new year.

Draig Werdd logo

Cynhaliwyd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Draig Werdd ar gyfer 2016 yn Nulyn ar 20 Hydref. Etholwyd y pwyllgor dilynol i wasanaethu am y flwyddyn i ddod:

Richard Morgan (cadeirydd)
Anne Buttimore (ysgrifennydd)
Geraint Waters (trysorydd)
Gareth Llwyd Jones
Eifion Williams

Mynegwyd diolchgarwch a gwerthfawrogiad yn y cyfarfod i’r cadeirydd ymadawol, Robin Smith, a gadawodd ar ôl dros wyth mlynedd yn y swydd, ac i’r ysgrifennydd sy’n ymadael Richard Bonney. Rhoddwyd adroddiad i’r cyfarfod ar statws yr ymgyrch i godi plac ar yr hen gapel Cymraeg yn Talbot Street a chawsom drafodaeth amdano – bydd diweddariad statws yn cael ei gyhoeddi yn fuan i’r aelodau. Hysbyswyd y cyfarfod hefyd am ein cynlluniau ar gyfer dathliadau Dydd Gŵyl Dewi yn 2017 sydd erbyn hyn wedi eu cwblhau – bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi yn gynnar yn y flwyddyn newydd.

Duolingo

A course in Welsh on Duolingo, the free language-learning platform, was launched earlier this year.   There are now 305,000 registered Duolingo users from around the world learning Welsh – this compares with 18,000 adults attending Welsh language classes in Wales.  There are also 499  virtual Welsh language classrooms in Duolingo serving schools and colleges.  See the diagram below for information on the distribution of learners throughout the world – click on the diagram to enlarge it.

Duolingo includes a language-learning website and app for mobile devices, and provides extensive written lessons and dictation, with speaking practice for more advanced users.   The app is available on iOS, Android and Windows 8 and 10 platforms and there is also a Facebook group where Welsh learners can discuss matters related to the course.  For more information, visit the Duolingo website on https://www.duolingo.com or download the mobile app from the Apple App Store or Google Play Store.

Congratulations to the developers of the Welsh language course in Duolingo on the success of the enterprise, and in particular to Draig Werdd committee member Richard Morgan, who is one of eight contributors to the course.

Duolingo Cymraeg

Lansiwyd cwrs Cymraeg Duolingo, y platfform dysgu iaith am ddim, yn gynharach eleni. Erbyn hyn mae 305,000 o ddefnyddwyr Duolingo o bob cwr o’r byd yn dysgu Cymraeg – mae hyn yn cymharu â 18,000 o oedolion sy’n mynychu dosbarthiadau Cymraeg yng Nghymru. Mae yna hefyd 499 o ystafelloedd dosbarth Cymraeg yn Duolingo sydd yn gwasanaethu ysgolion a cholegau. Gweler y diagram uchod i gael gwybodaeth am ddosbarthiad dysgwyr ledled y byd – cliciwch ar y diagram i’w chwyddo.

Mae Duolingo yn cynnwys gwefan ddysgu iaith ac app ar gyfer dyfeisiau symudol, ac yn darparu gwersi ysgrifenedig ac arddweud, gydag ymarfer siarad i ddefnyddwyr profiadol. Mae’r app ar gael ar iOS, Android a llwyfannau Windows 8 a 10 ac mae yna hefyd grŵp Facebook lle gall dysgwyr y Gymraeg drafod materion sydd yn ymwneud â’r cwrs. Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Duolingo ar https://www.duolingo.com neu lawrlwytho’r app symudol o’r Apple App Store neu’r Google Play Store.

Llongyfarchiadau i ddatblygwyr y cwrs Cymraeg yn Duolingo ar lwyddiant y fenter, ac yn arbennig i aelod pwyllgor Draig Werdd Richard Morgan, sydd yn un o wyth o gyfranwyr i’r cwrs.

 

AGM 20/10/2016 CCB

The 2016 Draig Werdd Annual General Meeting (AGM) will take place at 7.30pm on Thursday evening 20th October at Centenary Methodist Church Hall, Leeson Park, Dublin 4.   The meeting room is accessed via the entry to Centenary Methodist Church, which is at the rear of Wesley House, the building next to the large church at the end of Leeson Park (see map below).

As well as giving members the opportunity to have a say in the running of the society, you will also be able to hear a report on the results of our appeal for funds to erect a plaque on the old Welsh Chapel in Talbot Street, to discuss plans for an unveiling ceremony for the plaque and to hear details of our St. David’s Day celebration in 2017.

Please make every effort to come along to what is always a very pleasant social evening which gives an opportunity for members to get together.  Tea or coffee and biscuits will be provided.

centenary-methodist-church

Bydd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Draig Werdd 2016 (CCB) yn cael ei gynnal am 7.30pm ar nos Iau 20 Hydref yn Neuadd Eglwys Fethodistaidd Centenary, Leeson Park, Dulyn 4.  Ceir mynediad i’r ystafell drwy’r mynediad i’r Eglwys Fethodistaidd Centenary, sydd y tu ôl i Wesley House, yr adeilad yn nesaf i’r eglwys fawr ar ddiwedd Leeson Park (gweler y map uchod).

Yn ogystal â rhoi cyfle i aelodau i gael llais mewn gwaith o redeg y gymdeithas , byddwch hefyd yn gallu clywed adroddiad ar ganlyniadau ein hapêl am arian i godi plac ar yr hen gapel Gymraeg yn Talbot Street, i drafod cynlluniau ar gyfer seremoni dadorchuddio’r plac ac i glywed manylion am ein dathliad Dydd Gŵyl Dewi yn 2017.

Byddwn yn falch pe basech chi wneud pob ymdrech i fynychu noson sydd bob amser yn gymdeithasol iawn ac yn rhoi cyfle i aelodau i ddod at eu gilydd. Bydd te neu goffi a bisgedi yn cael eu darparu.