Blog

Wales v Belgium / Cymru v Gwlad Belg

Wales are playing Belgium in the quarter-final of the Euro 2016 football championship on Friday (1 July).   If you’re in Dublin and would like to watch the game in the company of other Welsh supporters, we will be meeting in the Woolshed Bar in Parnell Street, Dublin 1.   The game starts at 8pm.   Be there early to get a good seat!

Dewi sant

Bydd Cymru yn chwarae Gwlad Belg yn yr wyth olaf o’r bencampwriaeth bêl-droed Euro 2016 ar nos Wener (1 Gorffennaf). Os ydych chi yn Nulyn ac yn awyddus i wylio’r gêm yng nghwmni gefnogwyr Cymreig eraill, byddwn yn cyfarfod yn y Woolshed Bar yn Parnell Street, Dulyn 1. Mae’r gêm yn dechrau am 8pm. Dewch yn gynnar i gael sedd dda!

Festival of Welsh choral music 17/09/2016 Gŵyl Gerdd Gorawl Gymreig

Dublin Welsh Male Voice Choir is celebrating its 50th anniversary in 2016, and to celebrate the occasion the choir is organising a Festival of Welsh Choral Music at the National Concert Hall in Dublin on Saturday, September 17th.   A number of male voice choirs from Wales will be joining them to make up a choir of around 150 voices.   The programme will include a mixture of hymns and other sacred works, Welsh and Irish folk songs, opera choruses and popular songs, chosen to reflect the repertoire of the choir over its fifty years of existence.   They will also be joined by the renowned Welsh soprano Elin Manahan Thomas, who will be singing a number of solo items.

If you’d like to be there for what promises to be an emotional and memorable celebration of Welsh music in Dublin, tickets can be bought online for €25 (€22 for concessions) from the National Concert Hall via their website at www.nch.ie.

DWMVC

Bydd Côr Meibion Cymry Dulyn yn dathlu 50 mlynedd ers ei sefydliad yn 2016, ac i ddathlu’r achlysur mae’r côr yn trefnu Gŵyl Gerdd Gorawl Gymreig yn y National Concert Hall yn Nulyn ar ddydd Sadwrn, 17 Medi. Bydd nifer o gorau meibion o Gymru yn ymuno â nhw i ffurfio côr o tua 150 o leisiau. Bydd y rhaglen yn cynnwys cymysgedd o emynau a gweithiau cysegredig eraill, caneuon gwerin Gymreig a Gwyddelig, cytganau opera a chaneuon poblogaidd, wedi eu dewis i adlewyrchu repertoire y côr dros yr hanner can mlynedd o’i fodolaeth. Bydd y soprano Gymreig enwog Elin Manahan Thomas yn ymuno â nhw hefyd i ganu nifer o eitemau unigol.

Os hoffech chi fod yno ar gyfer yr achlysur hwn sy’n argoeli i fod yn ddathliad emosiynol a chofiadwy o gerddoriaeth Gymreig yn Nulyn, mae tocynnau ar gael ar-lein am €25 (€ 22 am gonsesiynau) oddi wrth y National Concert Hall drwy eu gwefan ar www.nch.ie.

 

Walking + football 25/06/16 Cerdded + peldroed

We will be walking the coastal path from Bray to Greystones this coming Saturday 25th June, leaving Bray at 2.30pm and arriving in Greystones by 5pm.   Just in time for the start of the Euro 2016 football match between Wales and Northern Ireland!  So as well as having a lovely walk, those who wish can also stay on and support Wales (or Northern Ireland if you’re so inclined) at a suitable location in Greystones, before catching the train back to Bray.

We will be meeting on Bray seafront outside the National Sea Life Aquarium at 2.30pm.  If you’d like to join us, send an email to info@welshsociety.ie or call or text Geraint Waters on 087-8298942.   Bring your friends and dogs – all welcome!

994-Bray-to_Walkers Greystones Bray 2

Dewi sant

Byddwn yn cerdded y llwybr arfordirol o Bray i Greystones ddydd Sadwrn 25 Mehefin gan adael Bray am 2.30pm a chyrraedd Greystones erbyn 5pm. Mewn pryd ar gyfer cychwyn y gêm bêl-droed Ewro 2016 rhwng Cymru a Gogledd Iwerddon! Felly yn ogystal â chael taith gerdded hyfryd, gall y rhai sy’n dymuno hefyd aros i gefnogi Cymru (neu Ogledd Iwerddon os ydych chi’n dewis gwneud hynny) mewn lleoliad addas yn Greystones, cyn dal y trên yn ôl i Bray.

Byddwn yn cyfarfod yn Bray y tu allan i’r National Sea Life Aquarium am 2.30pm.  Os hoffech chi ymuno â ni, anfonwch ebost at info@welshsociety.ie neu ffoniwch neu anfonwch neges i Geraint Waters ar 087-8298942.  Dewch â’ch ffrindiau â’ch cŵn – mae na’ groeso i bawb i ymuno â ni!

Wales v Russia / Cymru v Rwsia

Today’s the day that Wales can make history with qualification from their group. A win against Russia and we are through, a draw would be enough if Slovakia lose and we could even sneak through with a defeat but we won’t think about that.    Even if football isn’t your thing you can still come and support your nation as they strive to become immortal, it’s Monday so what else will you be doing ?    Meeting in the Woolshed on Parnell Street, Dublin, from 6pm, kick off at 8.
Dewi sant
Heddiw yw’r diwrnod y gall Cymru wneud hanes gyda chymhwyster oddi wrth eu grŵp.  Buddugoliaeth yn erbyn Rwsia ac rydym yn trwyddo, byddai gêm gyfartal yn ddigon os wnaiff Slofacia golli a gallem hyd yn oed yn sleifio drwyddo gyda threchiad ond dydyn ni ddim yn meddwl am hynny. Hyd yn oed os nad oes diddordeb gennych mewn pêl-droed allwch chi ddod i gefnogi eich cenedl wrth iddynt ymdrechu i ddod yn anfarwol, mae’n Ddydd Llun, felly beth arall y byddwch yn ei wneud? Rydyn ni’n cyfarfod yn y Woolshed ar Parnell Street, Dulyn, o 6pm ymlaen, cic gyntaf am 8.

Postal address in Ireland / Cyfeiriad post yn Iwerddon

Dalen (Llyfrau) Ltd. is a Welsh company which publishes the Asterix and Tintin series in Irish under the name Dalen Éireann.   They are currently looking for someone to provide an address in Ireland at which customers may contact them by post, which will then be forwarded to the company in Wales.  They pay a fee of £150 annually for provision of this service, in addition to covering all postage costs.   They currently receive most of their correspondence via email, but it is important for them to have a mailing address in Ireland.

If you know of anyone who currently provides such a service, or if you have a permanent address in Ireland and are interested in providing this service yourself, please contact Alun Ceri Jones at Dalen (Llyfrau) on acj@dalenllyfrau.com.

Tintin ac Asterix

Mae Dalen (Llyfrau) Cyf yn gwmni Cymreig sy’n cyhoeddi’r cyfresi Asterix a Tintin yn yr Wyddeleg o dan yr enw Dalen Éireann. Ar hyn o bryd maent yn chwilio am rywun i ddarparu cyfeiriad yn Iwerddon lle gall cwsmeriaid gysylltu â nhw drwy’r post, a fydd wedyn yn cael ei anfon ymlaen at y cwmni yng Nghymru. Maent yn talu ffi o £150 yn flynyddol ar gyfer darparu’r gwasanaeth hwn, yn ogystal â chost anfon unrhyw ohebiaeth bost ymlaen. Ar hyn o bryd maent yn cael y rhan fwyaf o’u gohebiaeth drwy e-bost, ond mae’n bwysig iddynt gael cyfeiriad post yn Iwerddon.

Os ydych yn gwybod am unrhyw un sydd ar hyn o bryd yn darparu gwasanaeth o’r fath, neu os oes gennych gyfeiriad sefydlog yn Iwerddon ac â diddordeb mewn darparu’r gwasanaeth hwn eich hun, cysylltwch ag Alun Ceri Jones yn Dalen (Llyfrau) ar acj@dalenllyfrau.com.