Festival of Welsh Choral Music in Dublin 17/09/2016 Gŵyl Gerdd Gorawl Gymreig yn Nulyn

Dublin Welsh Male Voice Choir is celebrating its 50th anniversary in 2016, and to celebrate the occasion the choir is organising a Festival of Welsh Choral Music at the National Concert Hall in Dublin on Saturday, September 17th.   They will be joined by choirs from Builth Wells, Carmarthen, Glynneath and Neath to form a massed choir of around 150 voices.   The programme will include a mixture of hymns and other sacred works, Welsh and Irish folk songs, opera choruses and popular songs, chosen to reflect the repertoire of the choir over its fifty years of existence.   They will be joined by the renowned Welsh soprano Elin Manahan Thomas, who will be singing a number of solo items.

There are only a few tickets remaining, so if you’d like to be there for what promises to be an emotional and memorable celebration of Welsh music in Dublin, go to www.nch.ie as soon as possible to buy your tickets, which cost €25 each (€22 for concessions).

DWMVC

Bydd Côr Meibion Cymry Dulyn yn dathlu 50 mlynedd ers ei sefydliad yn 2016, ac i ddathlu’r achlysur mae’r côr yn trefnu Gŵyl Gerdd Gorawl Gymreig yn y National Concert Hall yn Nulyn ar ddydd Sadwrn, 17 Medi. Bydd corau o Lanfair-ym-Muallt, Caerfyrddin, Glynnedd a Chastell-Nedd yn ymuno â nhw i ffurfio côr o tua 150 o leisiau. Bydd y rhaglen yn cynnwys cymysgedd o emynau a gweithiau cysegredig eraill, caneuon gwerin Gymreig a Gwyddelig, cytganau opera a chaneuon poblogaidd, wedi eu dewis i adlewyrchu repertoire y côr dros yr hanner can mlynedd o’i fodolaeth. Bydd y soprano Gymreig enwog Elin Manahan Thomas yn ymuno â nhw i ganu nifer o eitemau unigol.

Dim ond ychydig o docynnau sydd ar gael ar hyn o bryd, felly os hoffech chi fod yno ar gyfer yr achlysur hwn sy’n argoeli i fod yn ddathliad emosiynol a chofiadwy o gerddoriaeth Gymreig yn Nulyn, ewch i www.nch.ie cyn gynted ag sy’n bosib i brynu tocynnau, sydd yn costio €25 yr un (€22 am gonsesiynau).

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *