Welsh Diaspora Evening Photos / Lluniau Noson Alltudion Cymreig

Our Welsh Diaspora Evening at the CHQ Building in Dublin on Tuesday 10th March just managed to precede the shutdown due to the Covid19 emergency, so we were luckily able to celebrate St. David’s Day as part of Wales Week Dublin 2020 without any hindrance or restrictions.

The foyer of the CHQ Building itself provided a spacious and resonant setting for eating, drinking and socialising and for listening to the atmospheric harp playing of Ann Jones Walsh and the powerful singing of Dublin Welsh Male Voice Choir, with their conductor Brian Murphy and accompanist John Shera.   The high-tech Dome Cymru, which had been brought over from Wales and assembled in the foyer, was a novel and comfortable location for various talks during the evening, including prose and poetry readings, sample Welsh lessons and a presentation from Global Welsh Dublin on their plans for the future.

Go to the Gallery page of our website to seem some photos of the evening and to see a video of a rousing performance of ‘Rachie’ by the choir.

Llwyddodd ein Noson Alltudion Cymreig yn Adeilad CHQ yn Nulyn ddydd Mawrth 10 Mawrth i ragflaenu’r problemau oherwydd argyfwng Covid19, felly roeddem yn ffodus yn gallu dathlu Dydd Gŵyl Dewi fel rhan o Wythnos Cymru Dulyn 2020 heb unrhyw rwystr na chyfyngiadau.

Roedd cyntedd Adeilad CHQ ei hun yn darparu lleoliad eang a soniarus ar gyfer bwyta, yfed a chymdeithasu ac ar gyfer gwrando ar chwarae hyfryd o’r delyn gan Ann Jones Walsh, ac ar ganu pwerus Côr Meibion Cymry Dulyn, gyda’u harweinydd Brian Murphy a’u cyfeilydd John Shera. Roedd y Dome Cymru uwch-dechnoleg, a oedd wedi cael ei dwyn drosodd o Gymru a’i ymgynnull yn y cyntedd, yn lleoliad newydd a chyfforddus ar gyfer sgyrsiau amrywiol yn ystod y noson, gan gynnwys darlleniadau rhyddiaith a barddoniaeth, gwersi Cymraeg enghreifftiol a chyflwyniad gan Global Welsh Dublin ar eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Ewch i dudalen Oriel ein gwefan i wylio rhai lluniau o’r noson ac i weld fideo o berfformiad llawn bwrlwm o ‘Rachie’ gan y côr.

 

 

 

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *