We will be holding a social evening from 7.30pm on Thursday Nov 7th upstairs in Doheny and Nesbitt’s, Lower Baggot Street, Dublin, which will give all members and friends the chance to get together and relax and chat over a few drinks and get up to date with all the news and gossip. We will kick the evening off with our annual meeting, leaving plenty of time for socialising afterwards. We are expecting representatives of the Welsh government, Global Wales and Wales Week Worldwide to be there, so there will be a chance to hear about their plans for building up a Welsh presence in Ireland over the coming period and particularly some exciting news about St. David’s Day 2020. This will be a great opportunity for us as a society to build links with other similarly-minded organisations in order to create a strong Welsh representation in Ireland.
If you haven’t been to any of our functions before, then come along and enjoy a good night out in the company of fellow Welsh people and their friends, and help us to continue to promote friendship and solidarity in the Welsh community in Ireland. No pre-booking required, just turn up on the night.
Byddwn yn cynnal noson gymdeithasol o 7.30pm ymlaen ar nos Iau Tachwedd 7fed i fyny’r grisiau yn Doheny a Nesbitt’s, Lower Baggot Street, Dulyn, a fydd yn rhoi cyfle i’r holl aelodau a ffrindiau ddod at ei gilydd ac ymlacio a sgwrsio dros ychydig o ddiodydd ac i gadw lan â’r holl newyddion a chlecs. Byddwn yn cychwyn y noson gyda’n cyfarfod blynyddol, gan adael digon o amser i gymdeithasu wedyn. Rydym yn disgwyl i gynrychiolwyr llywodraeth Cymru, Global Wales a Wales Week Worldwide i fod yno, felly bydd cyfle i glywed am eu cynlluniau ar gyfer adeiladu presenoldeb Cymreig yn Iwerddon dros y cyfnod i ddod ac yn arbennig rhywfaint o newyddion cyffrous am Ddydd Gŵyl Dewi 2020. Bydd hwn yn gyfle gwych i ni fel cymdeithas adeiladu cysylltiadau â sefydliadau eraill o’r un fath er mwyn creu cynrychiolaeth Gymreig gref yn Iwerddon.
Os nad ydych chi wedi bod i unrhyw un o’n cyfarfodydd o’r blaen, dewch draw i fwynhau noson hwylus yng nghwmni cyd-Cymry a’u ffrindiau, er mwyn i ni barhau i hyrwyddo cyfeillgarwch a chydsafiad yn y gymuned Gymreig yn Iwerddon. ‘Does dim angen archebu ymlaen llaw, dim ond troi i fyny ar y noson.