Happy St. David’s Day / Dydd Gŵyl Dewi Hapus

Wherever you happen to be in the world, we’d like to wish you a happy St. David’s Day from Draig Werdd, the Welsh Society in Ireland, and hope that you have an enjoyable and celebratory day.

We will be delaying our St. David’s Day celebrations in Ireland until Tuesday evening March 10th, when we will be hosting an evening in Dome Cymru in the EPIC CHQ Building in Dublin, as part of Wales Week in Dublin which is taking place at the Dome from 9-13 March. So if you get a chance, come along and join our celebrations with food and drink, music on harp and in song (featuring Dublin Welsh choir performing a selection of Welsh pieces), poetry and prose, Welsh lessons and more. More details at http://www.welshsociety.ie/wales-week-dublin-9-13-3-wythnos-cymru-dulyn.

Ble bynnag rydych chi’n digwydd bod yn y byd, hoffem ddymuno Dydd Gŵyl Dewi hapus i chi o Draig Werdd, y gymdeithas Gymreig yn Iwerddon, a gobeithio y cewch chi ddiwrnod hyfryd a llawn dathlu.

Byddwn yn gohirio ein dathliadau Dydd Gŵyl Dewi yn Iwerddon tan nos Fawrth 10 Mawrth, pan fyddwn yn cynnal noson yn Dôm Cymru yn Adeilad EPIC CHQ yn Nulyn, fel rhan o Wythnos Cymru yn Nulyn sy’n cael ei chynnal yn y Dôm o 9-13 Mawrth. Felly os cewch y cyfle, dewch draw i ymuno â’n dathliadau gyda bwyd a diod, cerddoriaeth ar y delyn ac mewn cân (gyda chôr Cymru Dulyn yn perfformio detholiad o ddarnau Cymraeg), barddoniaeth a rhyddiaith, gwersi Cymraeg a mwy. Mwy o fanylion ar http://www.welshsociety.ie/wales-week-dublin-9-13-3-wythnos-cymru-dulyn.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *