Caneuon y Cymoedd 06/02/2016

Bydd Côr Meibion Cymry Dulyn yn cyflwyno cyngerdd yng nghlwb Rygbi
Bective Rangers yn Nulyn ar nos Sadwrn, Chwefror 6ed, y noson cyn y
gêm rygbi rhyngwladol rhwng Iwerddon a Chymru. Byddant yn ymuno â
Chôr Meibion Tâf o Gaerdydd, enillwyr ddwywaith yn ddiweddar yn yr
Eisteddfod Genedlaethol.

Mae croeso cynnes i bawb i ddod i’r noson sy’n argoeli i fod yn
noson hynod o ddifyr a chymdeithasol ac yn ddathliad o Gymru a’r
traddodiad corau meibion Cymreig fel rhagarweiniad i’r cyfarfyddiad
chwaraeon ar y prynhawn canlynol.

Mae’r cyngerdd yn dechrau am 8pm. Mae tocynnau’n costio €10 a gellir
eu prynu wrth y drws neu ymlaen llaw drwy gysylltu â Mark O’Brien ar
086-3621226.