Ymunwch

Mae aelodaeth o Ddraig Werdd yn rhad ac am ddim. I ymuno â’r grŵp ac i dderbyn gwybodaeth reolaidd trwy e-bost am ein gweithgareddau a’n diddordebau, ysgrifennwch eich manylion yn y blwch ar y dudalen hon.  Byddwch yna yn derbyn e-bost yn gofyn i chi i gadarnhau eich cofrestriad.  Os mynnwch chi, rhoddwch dipyn o wybodaeth amdanoch (ee) eich cartref gwreiddiol, ble ‘rydych chi’n byw ar hyn o bryd ayb.

Cliciwch yma i ddatgofrestru.

Cyfeillion Draig Werdd

Am ddim ond 10 Ewro’r flwyddyn allwch chi ddod yn “Gyfaill y Ddraig” i’n helpu ni i gynrychioli Cymru, ein gwleidyddiaeth, ein pobl a’n diwydiant ac i weithredu fel canolbwynt i’r gymdeithas Gymreig yn Iwerddon.  Yn ogystal â gofalu am y wefan ac yn dosbarthu cylchlythyrau rheolaidd, bydd eich cyfraniad yn ein helpu ni i drefnu gweithgareddau arbennig yn ystod y flwyddyn i hyrwyddo’n hamcanion. Nid oes tâl aelodaeth gan y gymdeithas, felly yr ydym yn dibynnu yn llwyr ar gyfraniadau gwirfoddol.

I ddod yn Gyfaill, cliciwch ar y botwm “Donate” isod i gyfrannu yn ddiogel trwy PayPal gyda cherdyn debyd neu gredyd, neu drwy eich cyfrif PayPal.