St. David’s Dinner 04/03/2017 Cinio Gŵyl Dewi

Draig Werdd is holding its ST. DAVID’S DAY CELEBRATION this year with a dinner on SATURDAY 4th MARCH in the Donnybrook Room at the HAMPTON HOTEL, Morehampton Road, Dublin 4.  The evening starts at 7.30pm with dinner being served at 8pm.  Bar facilities are available throughout the evening. Vegetarian meals may be provided on request.

We are delighted to welcome as our guest speaker this year the well-known Welsh broadcaster HUW LLYWELYN DAVIES.  Huw will be familiar to all those who have watched TV in Wales during the last 30 years, having been chief rugby commentator for S4C and BBC Wales for much of that time, where he formed a memorable partnership behind the microphone with Ray Gravell.  He also served as anchor man for television coverage of the National Eisteddfod for many years, and in addition presented the hymn-singing programme “Dechrau Canu, Dechrau Canmol” on S4C.    It is a great honour for us to welcome him to our St. David’s celebration in Dublin, for what promises to be a very memorable evening.    After-dinner musical entertainment will also be provided.

Tickets cost €40 each and may be obtained by sending an email to info@welshsociety.ie, calling or texting Geraint Waters on 087-8298942 or by printing and filling out the form available at this link: http://www.welshsociety.ie/wp/wp-content/uploads/DewiSant17_eng.pdf.

Bydd Draig Werdd yn cynnal ein dathliadau ar gyfer DYDD GŴYL DEWI eleni gyda chinio ar NOS SADWRN 4 MAWRTH yn y Donnybrook Room yng NGWESTY’R HAMPTON, Morehampton Road, Dulyn 4.  Bydd y noson yn dechrau am 7.30yh gyda’r cinio i’w wasanaethu am 8yh.  Bydd cyfleusterau bar ar gael trwy’r noson.  Darperir prydau llysieuol wrth ymofyn.

Rydym yn falch iawn i groesawu fel ein siaradwr gwadd eleni’r darlledwr Cymraeg adnabyddus HUW LLYWELYN DAVIES. Bydd Huw yn gyfarwydd i bawb sydd wedi gwylio teledu yng Nghymru yn ystod y 30 mlynedd diwethaf, ar ôl bod yn brif sylwebydd rygbi ar gyfer S4C a BBC Cymru am lawer o’r amser hwnnw, pan ffurfiodd bartneriaeth gofiadwy gyda Ray Gravell. Bu hefyd yn gwasanaethu fel dyn angor ar gyfer darllediadau teledu o’r Eisteddfod Genedlaethol am flynyddoedd lawer, ac yn ogystal, cyflwynodd y rhaglen canu emynau “Dechrau Canu, Dechrau Canmol” ar S4C. Mae’n fraint fawr i ni ei groesawu i’n dathliadau Gŵyl Dewi yn Nulyn, am noson sydd yn addo bod yn achlysur cofiadwy dros ben. Darperir hefyd tipyn o adloniant cerddorol wedi’r cinio.

Mae’r tocynnau yn costio €40 yr un, a gellir eu archebu ymlaenllaw trwy anfon e-bost at info@welshsociety.ie, trwy ffonio neu decstio Geraint Waters ar 087-8298942 neu drwy lenwi’r ffurflen sydd ar gael yma: http://www.welshsociety.ie/wp/wp-content/uploads/DewiSant17_cym.pdf.

Friends of Draig Werdd 2017 Cyfeillion y Ddraig Werdd

For just €10 per annum you can become a “Friend of Draig Werdd” for 2016/17, and help us to continue to promote Wales, its politics, people and culture and to provide a focus for the Welsh community in Ireland.   As well as maintaining the website and issuing regular emails, we rely on your contributions to organise special functions during the year such as the St. David’s Day party.   The society has no membership fee, and relies on voluntary contributions for funding.

If you haven’t already done so this year, to become a Friend of Draig Werdd you may make an online donation securely via credit or debit card by going to http://www.welshsociety.ie/contact-us/ and clicking on the “Donate” button.

Many thanks.

Am ddim ond €10 y flwyddyn allwch chi ddod yn “Gyfaill y Ddraig Werdd” am 2016/17, i’n helpu ni i gynrychioli Cymru, ein gwleidyddiaeth, ein pobl a’n diwylliant ac i weithredu fel canolbwynt i’r gymdeithas Gymreig yn Iwerddon.  Yn ogystal â gofalu am y wefan ac yn dosbarthu negeseuon e-bost yn rheolaidd, rydyn ni’n dibynnu ar eich cyfraniad i drefnu gweithgareddau arbennig yn ystod y flwyddyn, fel y parti Gŵyl Dewi.  Nid oes tâl aelodaeth gan y gymdeithas, felly yr ydym yn dibynnu yn llwyr ar gyfraniadau gwirfoddol.

Os nad ydych chi wedi gwneud hynny eisoes eleni, i ddod yn Gyfaill y Ddraig Werdd gallwch gyfrannu ar-lein yn ddiogel drwy gerdyn credyd neu ddebyd wrth fynd i http://www.welshsociety.ie/cymraeg/ymunwch-a-ni/ ac yn clicio ar y botwm “Donate”.

Diolch yn fawr.

Welsh lessons in Dublin

Just a reminder that our Welsh class for beginners is starting next week. The class will be taught by Richard Morgan and will take place in Gael Linn, 35 Dame Street, Dublin 2 on Tuesday evenings from 6.30 to 8pm. The course begins on Tuesday 17th January and will run for 10 weeks. The cost of the course will be €80 for full-time students, €100 for Draig Werdd members and €120 for all others. Classes will be limited to a maximum of 8 participants.

If you are interested in attending the class please send an email with your details to welshclass@welshsociety.ie and Richard will get back in contact with you to give you the necessary details.

Happy new year / Blwyddyn newydd dda

A happy new year from Draig Werdd to all our members/followers, and we hope that 2017 will bring good fortune to yourselves and to the society.   We are planning a number of activities for the early part of the year, including our St. David’s Day celebration, which will be taking place on Saturday March 4th in the Hampton Hotel in Donnybrook in Dublin.   This will be a dinner with guest speaker Huw Llewellyn Davies from Wales, so make a note in your diary – full details will be circulated later in January.  We are also making preparations for an unveiling ceremony for the plaque on the old Welsh chapel in Talbot Street in Dublin and will be sending out further details when these have been finalised.   In the meantime we’d like to wish you much happiness in 2017 and look forward to seeing you at one of our functions during the year.

Blwyddyn newydd dda i’n holl aelodau/ddilynwyr o’r Ddraig Werdd, ac rydym yn gobeithio y bydd 2017 yn dod â lwc dda i chithau ac i’r gymdeithas. Rydym yn cynllunio nifer o weithgareddau ar gyfer y rhan gyntaf y flwyddyn, gan gynnwys ein dathliadau ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi, a fydd yn cael ei gynnal ar Ddydd Sadwrn Mawrth 4ydd yn Ngwesty’r Hampton yn Donnybrook yn Nulyn. Bydd hyn yn ginio gyda’r siaradwr gwadd Huw Llewellyn Davies o Gymru, felly gwnewch nodyn yn eich dyddiadur – bydd manylion llawn yn cael eu dosbarthu yn ddiweddarach ym mis Ionawr. Rydym hefyd yn gwneud paratoadau ar gyfer seremoni dadorchuddio’r plac ar yr hen gapel Cymraeg yn Talbot Street yn Nulyn, a byddwn yn anfon rhagor o fanylion pan fyddent wedi eu cwblhau. Yn y cyfamser, hoffem ddymuno lawer o hapusrwydd i chi yn 2017 ac edrychwn ymlaen at eich gweld yn un o’n gweithgareddau yn ystod y flwyddyn.